logo
CROESO
Croeso i ‘Llaeth y Llan’, llaethdy pentre Llannefydd yng Ngogledd Cymru lle mae Gareth a Falmai Roberts yn cynyrchu eu iogwrt - melysfwyd danteithiol, sydd wedi ei berffeithio ganddynt ers 1980.
Dyna pryd penderfynwyd gynyddu eu busnes llaeth o gylch y pentre i gyfeiriadau eraill. Felly y daeth iogwrt Llaeth y Llan i fodolaeth.
Aeth Falmai ar gwrs arbennig i Rease Heath yn Sir Gaer, Gareth ar gwrs Creu yng ngholeg Llysfasi i eangu ei fedrusrwydd creadigol.
Mae Falmai yn cofio fel ddoe sut y bu iddynt gynhyrchu yr iogwrt ar y cychwyn mewn bwcedi llaeth (gan ddefnyddio llaeth o’u gwartheg eu hunain) a’i drin yn y cwpwrdd cynnes yn y ty! Mae pethau wedi newid ers hynny: tanciau mawr a’r dechnoleg diweddaraf sy’n rhan o’r driniaeth bellach. Maent o hyd yn parhau i ddefnyddio llaeth o’u buches eu hunain (50 o wartheg godro) , gan ychwanegu yn ol yr angen oddi wrth llaethdy Cyd Weithredol De Arfon.
Mae Gareth a Falmai wedi cael eu cydnabod llawer gwaith am eu menter ac ansawdd eu cynhyrch. Bellach fe’i ceir mewn 25 a mwy o wahanol flasau - gan gynwys yr rhai ddiweddaraf i gyd - wisgi a cwantro . Erbyn hyn mae’r busnes wedi cynyddu yn aruthrol ac y mae’r iogwrt yn cael ei fwynhau trwy Gymru gyfan - gan gynnwys y Cynulliad yng Nghaerdydd - yn ogystal a Gogledd Gorllewin Lloeger a threfi y gororau. Er hyn i gyd parheir yn gwmni teuluol dedwydd: Gareth a Falmai a’u mab Owain 27, ynghyd a chriw o fobol y pentre.
Yn ogystal a hyn , maent yn parhau i groesawu ymwelwyr sydd yn ysu i weld sut y gwneir yr iogwrt, a chyfle hefyd i fwynhau y gerddi gwych a’r adeiladau hynafol. Mae’r ddau ohonnynt wrth eu bodd yn dweud yr hanes ac yn barod iawn i ymateb i bob cwestiwn.
Enw eu fferm yw Tal y Bryn, sydd yn ddisgrifiad teg o’i leoliad uwchben llethrau Dyffryn Elwy, lle llifai’r afon tuag at Lanelwy cyn ymunno ag afon Glwyd ar eu taith i’r mor yn y Foryd ger y Rhyl. Mae’n ardal wedi ei orlwytho a hanes . Gerllaw mae Ogof Pontnewydd yng Nghefn Meiriadog, lle y canfuwyd weddillion dynol yn dyddio 250,000 o flynyddoedd yn ol.
Yn ymyl hefyd caerau oes yr haearn, tystiolaeth am ddyfodiad yr Rhufeiniaid, yn ogystal ag olion cyfnod y Seintiau. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ’roedd Rhyfel y Degwm yn ei anterth yma. Bu llenorion yma hefyd: Twm o’r Nant yr amlycaf ohonnynt, yn ysgrifennu dramau beiddgar , yn dadlau dros ddiwygio’r gymdeithas a dileu yr anghyfiawnderau.
Cofir o gyfnod y Dadeni am Catrin o Ferain, hithau o dras brenhinol a chysylltiadau a llys Elisabeth y cyntaf. Catrin yn rhan pwysig o hanes y fro gan iddi gael pedwar o wyr, a’r rhai hynny yn ddynion mwyaf dylanwadol eu cyfnod.
I Am mwy o wybodaeth pwyswch botwm ar ‘Gerddi,’ a ‘Ffeithiau Diddorol am Llaeth y Llan
About Us
© D Roberts and Son -Home Llaeth-Y-Llan Village Dairy