FFEITHIAU DIDDOROL AM LLAETH Y LLAN
Yma yn llaethdy Llaeth y Llan, ers llawer dydd, y cychwynnwyd un o ysgolion deithiol Griffith Jones Llanddowror a barhaodd o 1746 hyd at 1756 gan gyflwyno dysg i 30 o fyfyrwyr ; y lle cyntaf i gyflwyno gwersi addysg ym mhentre Lannefydd (Griffith Jones 1683 -1761, efengylydd o Sir Gaerfyrddin , arloeswr ym myd addysg, bu’n gyfrifol am sefydlu 3,000 o ysgolion teithiol mewn cyfnnod o 25 mlynedd drwy Gymru gyfan) Ei fwriad oedd cyflwyno ddysg i alluogi y Cymru i ddarllen y Beibl er mwyn achub eu heneidiau. Bellach , iogwrt blasus a maethlon a gynhyrchir yma er iechyd a mwyniant corfforol .
Tybed ai yma y cafodd Twm o’r Nant (1710-1810) a anwyd i deulu tlawd ym Mhen Porchell Isa gerllaw, ei addysg cynnar ? Gall fod! ‘Roedd Twm yn llenor arbennig. A’r hawl i’w alw yn Shakespeare Cymru yn seiliedig ar yr anterliwtiau a gyfansoddodd (a’u perfformio o drwmbal ei wageni coed yn y ffeiriau) yn herio’r awdurdodau anfoesol ei ddydd.
EIN PENTREF
 
Pentre rhyfeddol yw Llannefydd : yma ceir unigedd , eto nid yw ymhell o gyfleusterau trefi glannau’r mor a Dyfryn Clwyd . Wedi’r cwbwl onid ar y ffordd yma aeth y coits fawr ar ei thaith o Lundain i Ynys Mon cyn dyddiau Thomas Telford a’r A5 ?
 
Ar ben Mynydd y Gaer, milltir o’r pentre , y trigai dynoliaeth 3000 o flynyddoedd yn ol. Erbyn hyn mae’n le gwych i gerdded ar hwyrddydd o haf – pecyn o iogwrt yn eich cod a chan yr adar man i lonni’r galon!
 
Nid yw Berain ymhell – cartref Catrin , Mam Cymru fel y gelwir –disgynydd i Hari 1V a pherchen cartre’r Tuduriaid ym Mhenmynydd ym Mon.
Priododd pedwar gwaith – pob un ymlith y dynion mwyaf cyfoethog a dylanwadol ei dydd ; does ryfedd i feirdd ei chyfnod ganu ei chlodydd !
Richard Clwch - bancar marchnadol ac adeiladydd : cynrhychiolydd ei mawrhydi Elizabeth 1 (gyda Syr Thomas Gresham) yn Antwerp - prif canolfan arian y byd yn yr adeg honno , oedd ei ail wr.
Ef fu’n bennaf gyfrifol am lwyddiant economaidd y deyrnas yn nyddiau Elizabeth , yntau hefyd sefydlodd y Cyfnewidfa Stoc yn Llundain wedi ei batrymu ar y Boerse yn Antwerp.
Yn y parthau yma o Gymru fe gododd plasau gwych yn seiliedig ar yr hyn a welodd yn yr Iseldiroedd. ’Roedd Clough Williams Ellis yn ddisgynnydd iddo , yntau yn cydnabod y cysylltiad teuluol , a’r traddodiad o elwa ar yr hyn a welodd ar y cyfandir ,trwy gynllunio Portmeirion y pentre Eidalaidd yng Ngwynnedd.
 
Ond megis ddoe yw hyn o’i gymaru a Nefydd y sant a gofir yma o’r cyfnod Celtaidd . Nepell o eglwys y plwy (13 ganrif) bu ei chell o oes y seintiau. Ac oddimewn i’r eglwys y tybid y gorweddai Catrin.
 
Rhyfeddach fyth yw yr ogofau ar draws y dyffryn yng Ngefnmeiriadog lle bu Syr William Boyd – Dawkins ( yn y 19 ganrif) a Dr Stephen Green yn lled diweddar yn cloddio. Yno darganfuwyd gweddillion o gyfnod pan y troediai anifeiliaid annisgwyl yma megis hippo, rheino a’r arth flewog . Ac er y syndod fwyaf yn y cyfnod olaf un, gweddillion dynol – sef dant plentyn yn dyddio yn ol 250,000 o flynyddoedd!
 
Heddiw cartref yw Llannefydd i lawer o’r rhai sy’n gweithio i gynhyrchu iogwrt Llaeth y Llan. Ond cofier hefyd dyma le gwych i aros am ysbaid o wyliau i grwydro neu i olrain yr henebion lleol. A manteisio i alw i mewn i weld Gareth a Falmai Roberts wrth eu gwaith ; a treulio orig yn eu gerddi ysblennydd.
 

| Man Cychwyn | | Amdanon Ni | | Newyddion | | Taith | | Cyswllt |
Home
© D Roberts and Son - Llaeth-Y-Llan Village Dairy