 |
 |
Diai
cyfuniad gwych yw honno rhwng Gareth a Falmai Roberts - ef gyda’i
weledigaeth - hithau a’i thraed ar y ddaear yn gwireddu ei freuddwydion.
Dyna sydd yn cyfri bod yr hen berllan a‘r Ty Bach a’r pwll carthion
yng ngwaelod yr ardd, bellach ar ei newydd well, yn ardd bendigedig;
yn ennill ei phlwy gyda’r gorau yn y wlad. Dodwch hyn yng nghefndir
yr adeiladau hynafol yn dyddio o’r unfed ganrif ar bymtheg ac fe welwch
beth yw cyfrinach ei phrydferthwch. Mae’r terasau , y ffrwd dyfroedd
a’r bwau o flodau tlws yn cyd-weddu yng nghysgod y gwrych leylandi
melyn. Beth sydd well ar ddiwrnod o haf nac oedi ennyd ac ymgolli
yn swn y dwr a chan yr adar man. Yma mae Mair Aur y Gors yn cymysgu’n
hapus gyda Lili’r Dyfroedd a’r Eirus. A thrwch o Rosynnau Ffloribynda
yn cyflwyno eu naws persawrus a lliwgar. |
 |
 |
 |
Mae’r
borderau a’r terasau yn llawn o flodau llysieuol: Scabioso, Rudbeckia,
Salvia, Flocs, Delffiniwm, a Phyrethium. Trowch i’r chwith ac fe welwch
wely wedi ei suddo, gyda Lwpin, Pasteron, a Geranium yn ymladd i gyflwynno
eu naws Eidalaidd. |
 |
 |
 |
Mae
rhan arall o’r ardd yn cael ei pherarogli’n nwydus gan Balm Lemon,
Rosmari, Dil, Cammomile, Sage a Borage. Dyma ddau artist yn wir ,
mor gartrefol yn cyflawni gwyrthiau gweledol o phersawr gwych yn eu
gardd ynghyd a diwallu anghenion y miloedd sydd yn mwynhau bwyta eu
iogwrt diguro. |
 |
 |
 |
 |
Beth
am i chwi a’ch cyfeillion drefnu ymweliad a Llaeth y Llan i brofi
drosoch eich hunan ogoniant yr ardd a gweld sut mae Gareth a Falmai
yn cynhyrchu eu iogwrt bendigedig. |
 |
 |
|
|